Cefn Garthenor
Mae Cymru yn lle gwyrdd. Cefn gwlad hyfryd, arfordir syfrdanol a mynyddoedd anhygoel. Ond mae rhywbeth o’i le. Mae bioamrywiaeth yn dirywio yma yng Nghymru, yn ogystal ag ar draws y DU a'r blaned gyfan.
Yr hyn wnaeth wneud i mi feddwl am hyn o ddifrif, yn rhyfedd iawn, oedd meddwl am ffenest flaen car fy Nhad. Yn blentyn, yn ôl yn y 1970au, byddwn yn glanhau’r ffenest iddo ar ôl taith hir. Roedd bob amser wedi’i gorchuddio gan bryfed (marw), amrywiaeth enfawr o bryfed. Nawr, wrth yrru o amgylch Ceredigion yma yng nghanolbarth Cymru, does dim pryfed i’w gweld ar fy ffenest flaen. A dim ond y dechrau ydi hyn ... roedd y pryfed hynny’n peillio planhigion ac yn bwydo llu o greaduriaid eraill.
Oes ots mewn gwirionedd? Wel, oes. Rydyn ni fel bodau dynol yn dibynnu ar ecosystem iach i oroesi. Mae arnom ni angen pridd o ansawdd da, mae arnom ni angen i'n cnydau gael eu peillio ac mae arnom ni angen i'n tir ddelio â beth bynnag mae'r argyfwng hinsawdd rydyn ni’n byw drwyddo yn ei daflu ato. Ond, y naill ffordd neu'r llall, rydyn ni’n methu amddiffyn yr hyn y mae arnom ei angen. Mae'r blaned wedi blino'n lân.
Fe hoffwn i hynny fod yn wahanol yng Nghefn Garthenor. Yn y llecyn bach yma yng nghanolbarth hardd Cymru, rydyn ni eisiau newid pethau, er mwyn cael natur yn ôl. Storio ychydig mwy o garbon. Cam bach iawn fydd hwn, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth. I fioamrywiaeth ac i'n cymdogion ni, a fydd, gobeithio, yn elwa hefyd mewn ffordd ymarferol o'r hyn rydym yn ei gyflawni, drwy bethau fel niferoedd cynyddol o bryfed peillio a chadw dŵr yn y tir yn well.
Sut bydd hyn yn digwydd? Wel, bydd natur yn gwneud llawer ei hun. Ond er bod yr arwynebedd (210 erw, 85 hectar neu tua 105 o gaeau pêl droed) yn ei gwneud yn fferm weddol fawr i'r ardal, mae'n fach o safbwynt tirwedd ac mae byd natur ar goll i'r fath raddau fel y bydd arno angen help llaw. Dros amser bydd hynny'n golygu rhywfaint o help gan wartheg, a moch a merlod o bosibl. Bydd angen eu rheoli. Bydd rhywfaint o dorri gwair hefyd, rhywfaint o gloddio a rhywfaint o hadu hefyd efallai. Does dim byd pendant yn cael ei benderfynu, byddwn yn dilyn arweiniad y tir a natur ei hun.
Newydd ddechrau mae'r broses. Dechreuodd ar 14 Mai 2021. Bydd y wefan hon yn ceisio rhoi gwybodaeth i unrhyw un sydd â diddordeb am y cynnydd mae Cefn Garthenor yn ei wneud ar y siwrnai hon.
Alistair Hughes